Preifatrwydd
Hysbysiad preifatrwydd
Dyma'r hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Gwasanaeth Gwrandawiadau Gweithwyr Deintyddol (y Gwasanaeth Gwrandawiadau). Mae'n dweud pa wybodaeth amdanoch chi rydym yn ei storio a sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth, gan egluro mai dyma yw'n cyfrifoldeb o dan y gyfraith diogelu data.
Byddwn yn rhoi esboniad mwy manwl i chi pan fydd angen, er enghraifft os byddwn yn casglu gwybodaeth oddi wrthych chi am eich bod yn rhan o wrandawiad.
Mae'r Gwasanaeth Gwrandawiadau yn cael ei ariannu gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (y Cyngor) ac mae'n cael ei redeg yn annibynnol ar swyddogaeth ymchwilio'r Cyngor.
Ein prif bwrpas yw darparu swyddogaeth ddyfarnu annibynnol ar gyfer pryderon ynghylch addasrwydd i ymarfer sy’n cael eu codi yn erbyn gweithwyr deintyddol proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys trefnu a chynnal gwrandawiadau i benderfynu a yw addasrwydd gweithiwr deintyddol proffesiynol i ymarfer o bosibl yn ddiffygiol.
Gwrandawiadau yw cam olaf y broses addasrwydd i ymarfer. Nid yw'r Gwasanaeth Gwrandawiadau yn cymryd rhan o gwbl yng ngwaith ymchwilio'r Cyngor. Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn dal i fod yn gyfrifol am y wybodaeth rydyn ni'n ei defnyddio. Mae hyn yn golygu, o dan gyfraith diogelu data, mai’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yw 'rheolydd' y wybodaeth amdanoch chi.
Mae rhagor o wybodaeth am y modd mae'r Cyngor yn defnyddio gwybodaeth ar gael yn hysbysiad preifatrwydd y Cyngor.
Mae ein safonau ar gyfer diogelwch gwybodaeth yn cydymffurfio ag achrediad rhyngwladol, felly rydym yn cadw eich gwybodaeth yn gwbl ddiogel.
Casglu a chreu gwybodaeth
O dan Ddeddf Deintyddion 1984 mae'n ofynnol i ni gasglu gwybodaeth at ddibenion cynnal gwrandawiadau.
Ni sy’n hwyluso pob gwrandawiad sy'n cael ei gyfeirio atom gan y Cyngor. Felly, gallwn fod yn cysylltu â'r holl bartïon perthnasol, gan gynnwys y gweithiwr deintyddol proffesiynol, ei gynrychiolwyr cyfreithiol, tîm cyfreithiol y Cyngor a'u cynrychiolwyr ac unrhyw dystion sy’n gorfod bod yn bresennol.
Pan gynhelir gwrandawiad, bydd angen i ni gasglu rhywfaint o ddata personol gan gynnwys enw, a manylion cyswllt y rhai fydd yn y gwrandawiad. Mae'r rhan fwyaf o hyn yn cael ei ddarparu i ni gan y Cyngor.
Rydym yn darparu 'bwndel y gwrandawiad' i aelodau panel y pwyllgor, sy'n cynnwys yr holl dystiolaeth ar gyfer y gwrandawiad. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei storio'n electronig ar ein system rheoli achosion.
Rydym yn cadw gwybodaeth am benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgorau Iechyd, Ymddygiad Proffesiynol a Pherfformiad Proffesiynol, y Pwyllgor Gorchmynion Interim, a'r Pwyllgor Apêl Cofrestru. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahanol bwyllgorau hyn ar gael yn yr adran gwrandawiadau ar ein gwefan.
Mae'r penderfyniadau hyn ar gyfer pobl rydyn ni'n eu rheoleiddio, sef ein haelodau cofrestredig. Rydym hefyd yn cadw gwybodaeth am iechyd gweithwyr deintyddol proffesiynol ac euogfarnau troseddol pan fyddont yn berthnasol i'r achos rydym yn ei ystyried.
Rydym hefyd yn cadw gwybodaeth am gleifion ac aelodau'r cyhoedd, yn cynnwys cofnodion meddygol, pan fo hyn wedi'i ddarparu fel rhan o'r ymchwiliad neu wrth gynnal gwrandawiad. Mae'r rhan fwyaf o'n gwrandawiadau (gan gynnwys y rhai sy'n ystyried gorchmynion interim neu ailddechrau gwrandawiadau) yn cael eu cynnal yn gyhoeddus. Felly gall unrhyw aelod o'r cyhoedd, neu'r wasg, ofyn am gael dod i unrhyw un o'n gwrandawiadau os ydynt yn dymuno. Yn ystod gwrandawiad, gellir rhannu gwybodaeth bersonol am y gweithiwr deintyddol proffesiynol neu'r tystion sy'n mynychu'r gwrandawiad. Mae holl benderfyniadau ein gwrandawiadau’n cael eu cyhoeddi, felly maent yn y parth cyhoeddus.
Yn ystod y gwrandawiad, bydd manylion yr honiadau perthnasol sydd wedi'u codi yn cael eu darparu i'r pwyllgor: Gall hyn gynnwys data categori arbennig neu ddata euogfarnau troseddol am unigolion cofrestredig, achwynwyr, neu drydydd parti perthnasol.
Pan fo gweithiwr deintyddol proffesiynol yn cael ei gynrychioli'n gyfreithiol mewn cysylltiad ag ymchwiliad addasrwydd i ymarfer, efallai y byddwn yn gofyn am ganiatâd yr unigolyn i ddatgelu unrhyw wybodaeth am yr ymchwiliad i'w gynrychiolydd cyfreithiol. Mae hyn yn golygu mai dim ond ar ôl i'r unigolyn roi caniatâd (neu ganiatâd penodol mewn perthynas â data personol categori arbennig) y byddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth.
Fel arall, rydym ond yn prosesu unrhyw ddata personol mewn cysylltiad ag addasrwydd i ymarfer pan fo'r prosesu hwnnw'n angenrheidiol i ni gwblhau ein rhwymedigaethau cyfreithiol. Mae hyn yn golygu y gallwn wneud y pethau y mae'n ofynnol i ni eu gwneud, yn ôl y gyfraith, o dan y Ddeddf Deintyddion.
Pan fyddwn yn prosesu data personol categori arbennig neu ddata euogfarnau troseddol, gan gynnwys honiadau, mewn cysylltiad ag addasrwydd i ymarfer, yna rydym yn gwneud hynny ar y sail: bod y prosesu yn angenrheidiol ar gyfer swyddogaethau statudol y Cyngor mewn perthynas ag addasrwydd i ymarfer; a bod hyn er budd sylweddol i’r cyhoedd. Mae hyn yn golygu ein bod yn cyflawni budd cyhoeddus trwy ein gwaith.
Mewn rhai achosion, bydd darparu gwybodaeth i'r Cyngor mewn cysylltiad ag addasrwydd i ymarfer yn ofyniad statudol (yn unol â phwerau'r Cyngor mewn perthynas ag addasrwydd i ymarfer). Os na fydd gweithiwr deintyddol proffesiynol yn llwyddo i ddarparu gwybodaeth, neu os bydd yn darparu gwybodaeth anghywir, yna gall hyn ynddo'i hun arwain at gŵyn addasrwydd i ymarfer yn ei erbyn.
Mae'r wybodaeth yn cael ei storio yn system Rheoli Cofnodion Cwsmeriaid a gweinyddwyr diogel y Cyngor.
Sut rydym yn defnyddio gwybodaeth
Mae'r Pwyllgorau sy'n cael eu rheoli gan y Gwasanaeth Gwrandawiadau Gweithwyr Deintyddol yn defnyddio gwybodaeth at ddibenion penderfynu a all addasrwydd gweithiwr deintyddol proffesiynol i ymarfer fod wedi ei amharu neu a yw wedi ei amharu.
Rydym yn gyfrifol am sicrhau bod penderfyniadau a wneir gan ein Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol a'n Pwyllgorau Gorchmynion Interim yn cael eu hadlewyrchu ar y cofrestrau deintyddol.
Pan na ellir adnabod gweithwyr deintyddol proffesiynol a thystion, efallai y byddwn yn llunio astudiaethau achos dienw i helpu wrth recriwtio, sefydlu, dysgu a datblygu ein staff a'n cymdeithion. Defnyddir gwybodaeth o'r pryderon y mae'r Gwasanaeth Gwrandawiadau wedi eu derbyn ar gyfer cyhoeddi adroddiad blynyddol ar ein gwaith a'n perfformiad.
Sut rydym yn rhannu gwybodaeth
Rydym yn cyhoeddi canlyniadau gwrandawiadau ar ein gwefan ni, ar wefan y Cyngor ac mewn rhai achosion ar y cofrestrau deintyddol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut rydym yn cyhoeddi gwybodaeth, gan gynnwys cyfnodau amser perthnasol, yn y
Polisi Datgelu a Chyhoeddi (369.91 KB).
Mae gennym hefyd gontractau gyda sefydliadau eraill i gynnal gweithgareddau neu wasanaethau ar ein rhan, megis dehonglwyr a chofnodwyr trawsgrifiadau o'r gwrandawiadau. Os oes angen i ni rannu gwybodaeth gyda nhw, rydym yn gwneud yn siŵr:
- eu bod ond yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gyflawni'r gwasanaeth
- eu bod yn cytuno i beidio â defnyddio'r wybodaeth maen nhw’n ei derbyn gennym ni at unrhyw ddiben arall heblaw'r rhai a bennir gennym
- bod ganddyn nhw systemau priodol ar waith i ddiogelu data personol.
Pa hawliau sydd gennyf?
O dan gyfraith diogelu data, sef yn bennaf Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych hawliau dros y wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi.
- Gallwch ofyn i ni roi mynediad i chi at ddata personol amdanoch chi'ch hun sy'n cael eu dal gan y Cyngor.
- Gallwch ofyn i ni ddileu data personol amdanoch chi.
- Gallwch ofyn i ni gyfyngu ar brosesu data personol amdanoch chi, fel y bydd y data yn cael eu defnyddio at ddibenion cyfyngedig yn unig (sydd wedi'u nodi yn y GDPR).
- Gallwch wrthwynebu i’ch data personol gael eu prosesu.
- Gallwch ofyn i ni ddarparu data personol amdanoch chi a ddarparwyd gennych i ni mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac y gellir eu darllen gan beiriant, a gallwch drosglwyddo'r data hyn i reolydd data arall.
Gallwch wneud cais am unrhyw un o'r rhain trwy gysylltu â ni yn info@dentalhearings.org.
Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol drwy e-bostio: DPO@gdc-uk.org, neu gael rhagor o wybodaeth ar Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.
Gallwch ddarganfod mwy am eich hawliau ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.